Press Pass
PressPass
 

 

 
26 Sep 2011 12:23
Carrier bag levy could be great news for Welsh woodland!
 
 

Coed Cymerau Isaf



Change could help cut litter, while major high street store announces it will use funds to support the work of the Woodland Trust (Coed Cadw)


Cymraeg isod....

From the start of October all shops in Wales that employ ten or more staff be obliged to charge at least 5p each carrier bag and will be expected to pass this on to charities or good causes in Wales, and in particular to environmental projects.

Already, the major high street store Lakeland has agreed that money they collect through the carrier bag levy will be used to support the work of the Woodland Trust (Coed Cadw) in protecting woods, creating more native woodland and inspiring everyone to enjoy and value woodland and trees.

Jerry Langford, the Director of the Woodland Trust in Wales says: “The carrier bag levy is great news for Welsh woodland. Not only should it reduce the problem of litter in towns and the countryside, including woodland; it will also help to raise funds to help care for some of our wonderful woods and to plant more native woods and trees for the future. I’m delighted that a number of stores have thought of the Woodland Trust in deciding how to make use of the money collected through the levy and I’d encourage others to do likewise.”

Bob Granger, Finance and Retail Director of Lakeland says: “Lakeland has been delighted to support the Woodland Trust over a number of years. We have chosen to donate the proceeds of the carrier bag levy to the school and community tree pack scheme within Wales, to ensure that the monies raised benefit activities within Wales directly.”

The Woodland Trust owns and manages over 100 woods across Wales, which are open for everyone to enjoy at any time for free. These include iconic sites like Wentwood Forest near Newport, Wales’ largest surviving ancient forest and Cwm Mynach, an isolated valley in Snowdonia which the Trust bought last year following a successful public appeal, with the aim of bring back the native the oak and the ash where alien conifers had held sway for many decades. They also include very many much smaller woods which are much visited by local people, such as Plas Power Woods near Wrexham, Cwm George and Casehill Woods near Dinas Powys and Green Castle Woods south of Carmarthen.

The Trust is also active involved in creating new native woodland, working with landowners to help fulfil the Welsh Government’s aim of creating an extra 100,000 hectares of new woodland over the next 20 years to help absorb C02 and make the landscape more resilient to climate change.

Fe allai’r tâl ar fagiau siopa fod yn newyddion gwych i goetir Cymru!

Gallai’r newid helpu lleihau sbwriel, tra bod un siop fawr wedi cyhoeddi y byddant yn defnyddio'r arian i gefnogi gwaith yr Coed Cadw

O ddechrau mis Hydref fe fydd rhaid i bob siop yng Nghymru sy'n cyflogi deg neu fwy o staff godi tâl o 5c o leiaf ar bob bag siopa a bydd disgwyl iddyn nhw basio hwn ymlaen i elusennau neu achosion da yng Nghymru, ac yn arbennig i brosiectau amgylcheddol.

Eisoes, mae'r siop fawr Lakeland wedi cytuno i ddefnyddio’r arian a gesglir gan yr ardoll bag siopa i gefnogi gwaith Coed Cadw (the Woodland Trust) yn diogelu coed, creu rhagor o goedlannau brodorol ac ysbrydoledi pawb i fwynhau a gwerthfawrogi coetiroedd a choed.

Dywed Jerry Langford, Cyfarwyddwr yr elusen yng Nghymru yn dweud: "Mae’r ardoll ar fagiau yn newyddion gwych i goetir Cymru. Nid yn unig y dylai leihau problem sbwriel mewn trefi ac yng nghefn gwlad, gan gynnwys coetiroedd, bydd hefyd yn helpu codi arian i helpu i ofalu am rai o'n coetiroedd gwych ni ac i blannu rhagor o goed brodorol a choetir ar gyfer y dyfodol. Rwyf wrth fy modd fod nifer o siopau wedi meddwl am Goed Cadw wrth benderfynu sut i ddefnyddio’r arian a gesglir drwy'r ardoll a byddwn yn annog eraill i wneud yr un peth. "

Dywed Bob Grangter, Cyfarwyddwr Manwerthu ac Arian Lakeland: “Mae Lakeland wedi bod yn falch o gefnogi gwaith Coed Cadw dros nifer o flynyddoedd. Rydyn ni wedi dewis rhoi’r arian sy’n cael ei gasglu trwy’r dreth ar fagiau siopa i becynnau coed am ddim i ysgolion a chymunedau yng Nghymru, er mwyn sicrhau fod yr arian sy’n cael ei godi yn hybu gweithgareddau yng Nghymru.

Mae Coed Cadw yn gofalu am dros 100 o goedlannau ar draws Cymru, sydd yn agored i bawb eu mwynhau ar unrhyw adeg am ddim. Mae'r rhain yn cynnwys safleoedd eiconig fel Coed Gwent ger Casnewydd, sef coedwig hynafol mwyaf Cymru a Chwm Mynach, sef cwm anghysbell yn Eryri brynwyd gan Goed Cadw y llynedd yn dilyn apêl gyhoeddus lwyddiannus, gyda'r nod o ddod â’r coed derw a’r ynn yn ôl lle mae coed coniffer estron wedi tra-arglwyddiaethau am ddegawdau lawer. Maent hefyd yn cynnwys coedlannau llai o lawer sy’n denu llawer o bobl leol, fel Plas Power ger Wrecsam, Cwm George Casehill Woods a ger Dinas Powys a Green Castle Woods i'r de i Gaerfyrddin.

Mae Coed Cadw hefyd yn weithgar yn creu coetir brodorol newydd, gan gydweithio â thirfeddianwyr i helpu cyflawni nod Llywodraeth Cymru i greu 100,000 o hectarau o goetir newydd dros y 20 mlynedd nesaf er mwyn helpu amsugno C02 a helpu’r tirwedd i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn well.


Notes to Editors:

For media enquiries contact:
Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) on 08452 935 738 or 07760 171174, Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH Email roryfrancis@woodlandtrust.org.uk

Or Angharad Evans, (Campaigns Officer Wales in Cardiff) on 08452 935 735 or 07774 122802

Or The Woodland Trust Press Office email media@woodland-trust.org.uk or Tel 01476 581121

Coed Cadw (The Woodland Trust)
The Woodland Trust is the UK’s leading charity championing native woods and trees. It has 300,000 members and supporters. The Trust has three key aims: i) to enable the creation of more native woods and places rich in trees; ii) to protect native woods, trees and their wildlife for the future and; iii) to inspire everyone to enjoy and value woods and trees. Established in 1972, the Woodland Trust now has over 1,000 sites in its care covering approximately 20,000 hectares (50,000 acres). These include over 100 sites in Wales, with a total area of 1,580 hectares (3,900 acres). It offers free public access to nearly all of its sites. The Trust’s Welsh language name, “Coed Cadw”, is an old Welsh term, used in medieval laws to describe protected or preserved woodland.

Lakeland
Lakeland offer an unrivalled collection of creative kitchenware, practical ideas for the home and garden, and inspiring gifts from all over the world. Our Buyers search for innovative products that make life easier, before putting them through a rigorous selection and testing process to ensure they meet our exacting standards.
From everyday utensils and preserving basics, to never-seen-before cookware; if they've made it into our range, you can be sure they'll be long-lasting and offer great value for money. We are so confident of this that every item is backed by our reassuring, unconditional guarantee. If for any reason you aren't 100% happy, you'll get your money back, no questions asked. It's this kind of dedication to service that has gained us such a loyal customer following over the years.

Founded in the early 60s, we're a family-owned business with the same strong values of quality and customer care now as when we first started. From selling plastic bags for home freezing from my father's garage in Windermere, to over 4000 kitchen and home solutions today, Lakeland has grown to see us sending out thousands of parcels a day from our despatch centre, and we currently have 56 stores nationwide stretching from Aberdeen to Truro... and more in the pipeline!

Fe all y cyfryngau gysylltu â:

Rory Francis (Cyhoeddusrwydd a Swyddog Materion Cyhoeddus Cymru) ar 08452 935 738 neu 07760 171174, Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH roryfrancis@woodlandtrust.org.uk E-bost

Neu Angharad Evans, (Swyddog Ymgyrchoedd Cymru yng Nghaerdydd) ar 08452 935 735 neu 07774 122802

Neu Swyddfa'r Wasg Coed Cadw e-bost media@woodland-trust.org.uk neu ffôn 01476 581121

Coed Cadw (The Woodland Trust)

Coed Cadw yw’r brif elusen yn y DU sy’n siarad dros goedlannau a choed. Mae ganddo 300,000 o aelodau. Mae gan y mudiad dri amcan allweddol, sef: i) galluogi creu rhagor o goedlannau brodorol a lleoedd sy’n frith o goed, ii) diogelu coedlannau a choed brodorol a’r bywyd gwyllt sy’n gysylltiedig â nhw at y dyfodol a iii) ysbrydoli pawb i fwynhau a gwerthfawrogi coedlannau a choed. Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw enw Cymraeg y mudiad,“coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.

Lakeland

Mae Lakeland yn cynnig casgliad heb ei ail o offer cegin creadigol, syniadau ymarferol ar gyfer y cartref a'r ardd, ac anrhegion ysbrydoledig o bob cwr o'r byd. Mae ein prynwyr chwilio am gynnyrch arloesol sy'n gwneud bywyd yn haws, cyn dewis a dethol pa rai sy’n cwrdd â’n safonau manwl.

O offer bob dydd ac yn nwyddau cadw sylfaenol, i offer coginio na welwyd erioed o’r blaen; os ydyn nhw wedi cael eu derbyn fel nwyddau i’w gwerthu yn ein siopau ni, gallwch fod yn siŵr y byddan nhw'n para’n dda ac yn cynnig gwerth am arian. Rydyn ni mor hyderus o hyn fel bod pob eitem yn cael ei werthu gyda gwarant diamod. Os am ​​unrhyw reswm nad ydych yn 100% yn hapus, byddwch yn cael eich arian yn ôl – heb gwestiynau. Dyma’r math o ymroddiad i wasanaeth sydd wedi denu cymaint o gwsmeriaid ffyddlon dros y blynyddoedd.

Sefydlwyd y cwmni yn y 60au cynnar. Rydym yn fusnes teuluol gyda'r un gwerthoedd cadarn o ansawdd a gofal cwsmer ag yr oedd gennym pan ddechreuon ni. O gwerthu bagiau plastig ar gyfer y cartref rhewi o garej fy nhad yn Windermere, i dros 4000 o fathau o nwyddau cegin a chartref heddiw, mae Lakeland wedi tyfu fel ein bod yn anfon allan miloedd o barseli bob dydd o’n canolfan dosbarthu, a bellach mae gennym 56 siopau ledled y wlad yn ymestyn o Aberdeen i Truro ... a mwy ar y gweill!


 

For more information contact:

 


 

 
download Winzip
 
Plasticbagata<br />WoodlandTrustsite<br />insouthWales

 

26/09/2011 12:02:00
Plastic bag at a Woodland Trust site in south Wales