This content requires the Adobe Flash Player.
Get Flash
30 Sep 2011 15:40
Farm open day to help farmers branch out into a more profitable future
Allt Goch Farm, St Harmon near Rhayader, 11 October
Cymraeg isod....
Farmers interested in the opportunity of making more of their land by planting small areas of woodland and trees are invited to a free farm open day at St Harmon, near Rhayader on 11 October. Generous grants are now available under the new Glastir Woodlands scheme and these will be explained on the day. The event is being organised jointly by FWAG Cymru and the Woodland Trust (Coed Cadw).
The area of new woodland created in Wales increased by 50% this year, from 200 ha in 2009-10 to 300 ha in 2010-11, as farmers started to make use of the new Glastir Woodland Creation Grants, which offer up to £9,000 per hectare without loss of single farm payment.
One farmer who has already started planting trees on the farm is Marc Jones of Mathrafal Farm at Meifod near Welshpool. His farm is 260 acres, and is all arable, growing wheat, barley, maize and silage. He has recently planted 500 trees, mainly oak and sycamore but also some sweet chestnut, horse chestnut, cherry and lime.
He says: “We see the planting programme as an investment for the future as we believe timber will become an increasingly valuable commodity. We are already seeing the benefits of improved habitat for wildlife with an increase in the number of birds. The Glastir Woodland Creation Grant is key. Tree planting improves the whole environment. Water management is really important as well; a lot of the trees we’ve planted will be by the river bank.”
Marc has a particular interest in wood fuel as he has recently established a biomass energy business based at Mathrafal Farm. Egnisco provides both biomass boilers and wood fuel for commercial, industrial, local authority and residential uses throughout Wales and The Marches, thus helping customers to reduce carbon emissions and to benefit from green renewable energy at a competitive cost.
The open day at Allt Goch Farm is being held by kind permission of Mr Evan Price. Also present will be a Forestry Commission approved independent agent who is available to prepare Glastir woodlands grant applications on behalf of farmers and other landowners, representatives of FWAG Cymru and the Woodland Trust (Coed Cadw) team.
Those landowners who are keen to plant trees, but who do not wish to make use of Glastir Woodland Creation grants can apply for farm tree packs from the Woodland Trust. This may be of particular interest to farmers wishing to plant very small areas of woodland or wood pasture. Details will be available at the farm open day.
The day is free and places can be booked by ringing FWAG Cymru on 01341 421456. More details are available online at www.woodlandtrust.org.uk/wales
Diwrnod agored i helpu ffermwyr i fanteisio ar goed i wneud eu ffermydd yn fwy proffidiol
Fferm Allt Goch, St Harmon ger Rhaeadr Gwy, 11 Hydref
Estynnir croeso i ffermwyr fyddai’n hoffi gwneud mwy o ddefnydd o’u tir trwy blannu darnau bach o goetir a choed i ddiwrnod agored am ddim ar fferm yn St Harmon, ger Rhaeadr Gwy ar 11 Hydref. Mae grantiau hael ar gael bellach o dan y cynllun newydd Creu Coetir Glastir, ac fe gaiff y rhain eu hesbonio ar y diwrnod. Trefnir y digwyddiad ar y cyd gan FWAG Cymru a Choed Cadw (the Woodland Trust).
Mae maint y coetir newydd a grëwyd yng Nghymru wedi codi 50% eleni, o 200 ha yn 2009-10 i 300 ha yn 2010-11, wrth i ffermwyr ddechrau gwneud defnydd o grantiau newydd Cynllun Creu Coetir Glastir, sy'n cynnig hyd at £ 9,000 yr hectar heb golli’r taliad fferm sengl.
Un ffermwr sydd eisoes wedi dechrau plannu coed ar ei fferm yw Marc Jones o Fferm Mathrafal ym Meifod ger y Trallwng. Mae ei fferm yn 260 erw, tir âr yn tyfu gwenith, haidd, indrawn a silwair. Mae o newydd blannu 500 o goed, coed derw yn bennaf gyda sycamorwydd ond hefyd castanwydd pêr, castanwydd y meirch, ceirios a phalalwyf.
Mae’n dweud: "Rydym yn gweld y rhaglen plannu fel buddsoddiad at y dyfodol gan ein bod ni’n credu y bydd coed yn dod yn fwyfwy gwerthfawr a drud fel defnydd. Rydym eisoes wedi gweld manteision creu cynefin gwell ar gyfer byd natur gyda chynnydd yn nifer yr adar. Mae Grantiau Creu Coetir Glastir yn allweddol. Mae plannu coed yn gwella'r amgylchedd yn ei gyfanrwydd. Mae rheoli dŵr yn bwysig iawn yn ogystal; mae llawer o'r coed rydym wedi plannu ar lan yr afon ".
Mae gan Marc ddiddordeb arbennig mewn coed tân gan ei fod o newydd sefydlu busnes ynni biomas ar Fferm Mathrafal. Mae Egnisco yn darparu bwyleri biomas yn ogystal â choed tân ar gyfer diwydiant, awdurdodau lleol a phreswylwyr ledled Cymru a'r Gororau, gan helpu cwsmeriaid i leihau allyriannau carbon ac i elwa o ynni gwyrdd adnewyddol am gost gystadleuol.
Cynhelir y diwrnod agored yn Fferm Allt Goch drwy ganiatâd caredig Mr Evan Price. Fe fydd asiant annibynnol yn bresennol hefyd, a gymeradwywyd gan y Comisiwn Coedwigaeth, sy’n gallu paratoi ceisiadau Grant Creu Coetir Glastir ar ran ffermwyr a thirfeddianwyr eraill ynghyd â chynrychiolwyr o FWAG Cymru a Choed Cadw (the Woodland Trust).
Gall tirfeddianwyr sy'n awyddus i blannu coed, ond sy ddim yn dymuno defnyddio grantiau Coetiroedd Glastir Creu ymgeisio am becynnau coed fferm oddi wrth y Coed Cadw. Gall hyn fod o ddiddordeb arbennig i ffermwyr sy'n dymuno plannu ardaloedd bach iawn o goetir neu borfa goediog. Fe fydd manylion am hyn ar gael yn y diwrnod.
Mae'r diwrnod yn rhad ac am ddim a gellir neilltuo lle drwy ffonio FWAG Cymru ar 01341 421456. Ceir mwy o fanylion ar-lein ar gael yn www.woodlandtrust.org.uk/cymru
Notes to Editors:
For media enquiries contact:
Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) on 08452 935 738 or 07760 171174, Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH Email roryfrancis@woodlandtrust.org.uk
Or Angharad Evans, (Campaigns Officer Wales in Cardiff) on 08452 935 735 or 07774 122802
Or The Woodland Trust Press Office email media@woodland-trust.org.uk or Tel 01476 581121
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Or FWAG Cymru on 01341 421456
The Woodland Trust is the UK’s leading charity championing native woods and trees. It has 300,000 members and supporters. The Trust has three key aims: i) to enable the creation of more native woods and places rich in trees; ii) to protect native woods, trees and their wildlife for the future and; iii) to inspire everyone to enjoy and value woods and trees.
Established in 1972, the Woodland Trust now has over 1,000 sites in its care covering approximately 20,000 hectares (50,000 acres). These include over 100 sites in Wales, with a total area of 1,580 hectares (3,900 acres). It offers free public access to nearly all of its sites. The Trust’s Welsh language name, “Coed Cadw”, is an old Welsh term, used in medieval laws to describe protected or preserved woodland.
Farming and Wildlife Advisory Group
FWAG Cymru is a charitable trust offering environmental management advice to farmers throughout Wales. It offers independent advice to assist your farming practice and to help Welsh wildlife thrive and prosper.
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis (Swyddog Cyfathrebu Cymru) ar 08452 935 738 neu 07760 171174, Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH roryfrancis@woodlandtrust.org.uk
Neu Angharad Evans, (Swyddog Ymgyrchoedd Cymru yng Nghaerdydd) ar 08452 935 735 neu 07774 122802
Neu Swyddfa'r Wasg Coed Cadw yn Grantham ar media@woodland-trust.org.uk neu ffôn 01476 581121
Neu FWAG Cymru ar 01341 421456
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r brif elusen yn y DU sy’n siarad dros goedlannau a choed. Mae ganddo 300,000 o aelodau. Mae gan y mudiad dri amcan allweddol, sef: i) galluogi creu rhagor o goedlannau brodorol a lleoedd sy’n frith o goed, ii) diogelu coedlannau a choed brodorol a’r bywyd gwyllt sy’n gysylltiedig â nhw at y dyfodol a iii) ysbrydoli pawb i fwynhau a gwerthfawrogi coedlannau a choed.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw enw Cymraeg y mudiad,“coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.
Grwp Ymgynghorol Ffermio a Bywyd Gwyllt
Ymddiriedolaeth elusennol yw FWAG Cymru sy'n cynnig cyngor rheoli amgylcheddol i ffermwyr ledled Cymru. Mae'n cynnig cyngor annibynnol i helpu eich arferion ffermio ac i helpu bywyd gwyllt Cymru yn ffynnu ac yn ffynnu
For more information contact: