Press Pass
PressPass
 

 

 
13 Oct 2011 16:29
Green shoots for a more profitable future at Anglesey farm open day
 
 


Cefn Maesoglan, Brynsiencyn, 26 October


Cymraeg isod....

Farmers interested in the opportunity of making more of their land by planting small areas of woodland have been invited to a free farm open day at Brynsiencyn, in Anglesey on 26 October. The event is being organised jointly by FWAG Cymru and the Woodland Trust (Coed Cadw).

The area of new woodland created in Wales is already increasing as farmers begin to make use of the new Glastir Woodland Creation Grants, which offer up to £9,000 per hectare without loss of single farm payment.

One landowner who has already started planting trees and who plans to do more is Richard Roberts, on whose farm the open day is being held. Cefn Maesoglan is a 265 acre arable farm, which is currently tenanted but is to be taken back in hand next year. It produces wheat, barley, oilseed rape and spring beans, but Mr Roberts planted a total of 16 acres of woodland in the 1990s, partly as cover for a pheasants but also to produce high quality timber. He now intends to plant a further 5 acres and also install a biomass boiler to heat two properties. He expects that this will save up to £2,000 a year in heating oil.

He says: “Now is an excellent time to plant trees, particularly because of the generous Glastir Woodland Creation Grants. If you take a long term view, fossil fuels are going to keep rising in price. Farmers are in a unique position of being able to grow their own, producing a valuable resource and helping the country meet its CO2 reduction targets. It’s a great opportunity to make better use of bits of land that are not performing.

“In the uplands, there’s a lot of bracken land that perhaps falls into this category. In the lowlands, you have to be more careful. But if you consider timber as a cash crop, it has a value and can provide a valuable resource for manufacturing in the future.”

The course is free and places can be booked by ringing FWAG Cymru on 01341 421456. More details are available online at www.woodlandtrust.org.uk/wales

Egin gwyrdd ar gyfer dyfodol mwy proffidiol mewn diwrnod agored ar fferm yn Sir Fôn
Cefn Maesoglan, Brynsiencyn, 26 Hydref

Estynnir gwahoddiad i ffermwyr sydd â diddordeb mewn gwneud mwy o'u tir trwy blannu darnau bach o goetir, i ddiwrnod agored agored am ddim ar fferm ym Mrynsiencyn, Ynys Môn ar 26 Hydref. Mae'r digwyddiad yn cael ei drefnu ar y cyd gan FWAG Cymru a Choed Cadw (the Woodland Trust).

Mae maint y coetir newydd sy’n cael ei greu yng Nghymru wedi cynyddu eisoes wrth i ffermwyr ddechrau manteisio ar grantiau creu coetir Glastir, sy'n cynnig hyd at £ 9,000 yr hectar a hynny heb golli taliad fferm sengl.

Un tirfeddiannwr sydd eisoes wedi dechrau plannu coed ac sy’n bwriadu gwneud mwy yw Richard Roberts, perchennog Cefn Maesoglan. Fferm âr 265 erw yw hwn, sy’n cael ei osod ar hyn o bryd ond a ddaw o dan ofal Mr Roberts unwaith eto y flwyddyn nesaf. Mae'n cynhyrchu gwenith, haedd, bresych yr yd a ffa gwanwyn, ond fe blannodd Mr Roberts gyfanswm o 16 erw o goetir yn y 1990au, yn rhannol fel gorchudd ar gyfer ffesantod, ond hefyd i gynhyrchu pren o ansawdd uchel. Mae bellach yn bwriadu plannu 5 erw ychwanegol a gosod boeler biomas i wresogi dau dy. Mae disgwyl i hyn arbed hyd at £ 2,000 y flwyddyn mewn olew gwresogi.

Mae’n dweud: "Mae rwan yn amser ardderchog i blannu coed, yn enwedig oherwydd grantiau creu coetir glastir, sy’n hael iawn. Os byddwch yn meddwl yn y tymor hir, mae’n debyg y bydd pris tanwydd ffosil yn dal i godi. Mae ffermwyr mewn sefyllfa unigryw oherwydd fod modd iddyn nhw dyfu tanwydd eu hunain, gan gynhyrchu yn adnodd gwerthfawr ac yn helpu'r wlad i gwrdd â’i dargedau lleihau CO2. Mae'n gyfle gwych i wneud gwell defnydd o ddarnau o dir sy ddim yn perfformio ar hyn o bryd.

"Yn yr ucheldir, mae’n debyd fod llawer o dir rhedyn sy'n perthyn i'r categori hwn. Yn yr iseldiroedd, rhaid i chi fod yn fwy gofalus. Ond os ydych yn ystyried pren fel cnwd, mae’n werthfawr ac mae’n gallu darparu adnodd pwysig ar gyfer diwydiant yn y dyfodol."

Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim a gellir neilltuo lle drwy ffonio FWAG Cymru ar 01341 421456. Mae mwy o fanylion ar-lein wrth www.woodlandtrust.org.uk/wales


Notes to Editors:

For media enquiries contact:

Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) on 08452 935 738 or 07760 171174, Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH Email roryfrancis@woodlandtrust.org.uk

Or Angharad Evans, (Campaigns Officer Wales in Cardiff) on 08452 935 735 or 07774 122802

Or The Woodland Trust Press Office email media@woodland-trust.org.uk or Tel 01476 581121

Coed Cadw (The Woodland Trust)
The Woodland Trust is the UK’s leading charity championing native woods and trees. It has 300,000 members and supporters. The Trust has three key aims: i) to enable the creation of more native woods and places rich in trees; ii) to protect native woods, trees and their wildlife for the future and; iii) to inspire everyone to enjoy and value woods and trees.

Established in 1972, the Woodland Trust now has over 1,000 sites in its care covering approximately 20,000 hectares (50,000 acres). These include over 100 sites in Wales, with a total area of 1,580 hectares (3,900 acres). It offers free public access to nearly all of its sites. The Trust’s Welsh language name, “Coed Cadw”, is an old Welsh term, used in medieval laws to describe protected or preserved woodland.

Farming and Wildlife Advisory Group Cymru
FWAG Cymru is a charitable trust offering environmental management advice to farmers throughout Wales. It offers independent advice to assist your farming practice and to help Welsh wildlife thrive and prosper.

Mae croeso i’r cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis (Swyddog Cyfathrebu Cymru) ar 08452 935 738 neu 07760 171174, Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH roryfrancis@woodlandtrust.org.uk

Neu Angharad Evans, (Swyddog Ymgyrchoedd Cymru yng Nghaerdydd) ar 08452 935 735 neu 07774 122802

Neu Swyddfa'r Wasg Coed Cadw yn Grantham ar media@woodland-trust.org.uk neu ffôn 01476 581121

Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r brif elusen yn y DU sy’n siarad dros goetir a choed. Mae ganddo 300,000 o aelodau. Mae gan y mudiad dri amcan allweddol, sef: i) galluogi creu rhagor o goedlannau brodorol a lleoedd sy’n frith o goed, ii) diogelu coedlannau a choed brodorol a’r bywyd gwyllt sy’n gysylltiedig â nhw at y dyfodol a iii) ysbrydoli pawb i fwynhau a gwerthfawrogi coedlannau a choed.

Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw enw Cymraeg y mudiad,“coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.

Ffermio a Bywyd Gwyllt Grwp Ymgynghorol
Mae FWAG Cymru yn ymddiriedolaeth elusennol sy'n cynnig cyngor rheoli amgylcheddol i ffermwyr ledled Cymru. Mae'n cynnig cyngor annibynnol i cynorthwyo’ch arferion ffermio ac i helpu bywyd gwyllt Cymru i fynd o nerth i nerth.


 

For more information contact:

 


 

 
download Winzip
 
RichardRoberts

 

13/10/2011 16:32:00
Richard Roberts