Press Pass
PressPass
 

 

 
23 Oct 2010 12:15
It’s a bright future for tree planting in Wales, says Coed Cadw (the Woodland Trust)
 
 


New Glastir Woodland Creation grant scheme offers up to £9,000 per hectare for planting native trees


Welsh farmers have welcomed the Welsh Assembly Government’s new Glastir Woodland Creation grant scheme, which offers up to £9,000 per hectare for planting native trees.

Launched in October 2010, the new Glastir Woodland Creation grant scheme encourages and supports woodland creation in Wales. The scheme is available now and is open to all landowners, whether farmers or not, and whether or not they are within the Glastir agri-environmental scheme.

The scheme was launched by the Welsh Rural Affair Minister Elin Jones and is aimed at delivering the Welsh Assembly’s target of creating 100,000 ha of new native and mixed woodland over the next 20 years, to help soak up carbon dioxide from the atmosphere and also to make the Welsh landscape more resilient to the effects of climate change.

The scheme includes a planting grant over the first three years, an income foregone payment over 15 years and also a payment of £3.15 per metre for new fencing. The rates vary depending on the type of trees planted and are higher for registered farmers. Full details are available on the Welsh Assembly Government website .

One Welsh farmer who has welcomed the scheme is Andy Kehoe, who runs a 120 acre farm at Llandygái near Bangor. He says: “I really like the idea that the assembly is supporting tree planting. Trees on the farm are a crop that everyone wins with, firewood, shelter, conservation and after a few years materials for tools and buildings (they look good too). Small areas we planted 10 years ago are now producing wood for burning, shelter for stock and poles for tools. Assembly keep it up please with encouragement for existing woodland areas as well."

Clare Morgan, woodland creation manager with Coed Cadw says: “There are a huge number of good reasons why planting small areas of trees makes sense on Welsh farms. Trees can provide a renewable supply of free firewood to keep the farmhouse warm as energy prices rise. They can form shelterbelts to protect livestock from wind, rain and sunshine. They can provide a haven for bees and other pollinators as well as birds and other wildlife. They can help prevent flooding and tackle diffuse pollution. They can soak up carbon dioxide from the atmosphere and so help mitigate climate change.

“What’s new now is that, making use of EU money, the Welsh Assembly Government will pay for farmers and other landowners to plant trees, and at a very generous rate.”

However, with the deadline for applications for the Glastir agri-environmental scheme fast approaching on 22 November, Clare has one particular worry: “With grant rates of up to £9,000 per hectare, Glastir Woodland Creation will be an attractive option for many farmers. But the scheme is new and many farmers may not be fully aware of it before they submit their Glastir forms in November. So the risk is that they may commit some of their land to other, non-woodland Glastir options before discovering what a good deal Glastir Woodland Creation is.

“So our advice to farmers is to check out Glastir Woodland Creation now. There’s information on the Welsh Assembly Government’s website at:www.wales.gov.uk


Dyfodol disglair ar gyfer plannu coed yng Nghymru, medd Coed Cadw (the Woodland Trust)

Cynllun Grantiau Creu Coetir Glastir yn cynnig hyd at £9,000 yr hectar am blannu coed brodorol

Mae ffermwyr wedi croesawu cynllun grantiau newydd y Cynulliad, sy’n cynnig hyd at £9,000 yr hectar am blannu coed brodorol.

Lansiwyd y cynllun ym mis Hydref 2010 a’i fwriad yw annog a chefnogi creu coetir newydd yng Nghymru. Mae’r grantiau ar gael i bob tirfeddiannwr, nid yn unig ffermwyr, ac nid oes rhaid i chi fod yn rhan o’r Cynllun Amaeth-amgylchedd Glastir. Os ydych wedi gwneud cais am yr elfen Cymru Gyfan Glastir eisoes, fedrwch chi dal gwneud cais am grantiau cynllun Creu Coetir Glastir ar wahân.

Lansiwyd y cynllun gan Elin Jones, Gweinidog Materion Gwledig, a’r bwriad yw cyflawni targed y Cynulliad i greu 100,000 ha o goetir brodorol a chymysg dros yr ugain mlynedd nesaf, i helpu amsugno carbon deuocsid o’r awyr a helpu tirwedd Cymru i wrthsefyll newid yr hinsawdd yn well.

Mae’r cynllun yn cynnwys grant plannu dros y tair blynedd gyntaf, taliad am incwm a gollir dros 15 mlynedd a hefyd taliad o £3.15 y metr am ffensys newydd. Mae’r taliadau’n amrywio yn ôl pa fath o goetir sy’n cael ei greu ac maen nhw’n uwch i ffermwyr nag i dirfeddianwyr eraill. Mae manylion llawn ar gael ar wefan Coed Cadw yma.

Un ffermwr sydd wedi croesawu’r cynllun yw Andy Kehoe, sy’n rhedeg fferm 120 erw yn Llandegái ger Bangor. Mae’n dweud: “Rwy’n canmol y syniad fod y Cynulliad yn cefnogi plannu coed. Mae coed ar y fferm yn gnwd a all pawb elwa wrthi, coed tân, lloches, cadwraeth ac ar ôl ychydig flynyddoedd deunydd ar gyfer offer ac adeiladau (sy’n edrych yn dda). Plannwyd darnau bach o goetir 10 mlynedd yn ôl ar y fferm, ac erbyn heddiw mae’n cynhyrchu coed ar gyfer llosgi, cysgod i’r anifeiliaid a pholion ar gyfer offer. Rwy’n erfyn ar y Cynulliad i gadw’r anogaeth hwn os gwelwch yn dda, ar gyfer coedtir presennol yn ogystal.”

Dywed Clare Morgan, rheolwraig creu coetir gyda Choed Cadw: “Mae yna gant a mil o resymau pam fod plannu darnau bach o goetir yn gwneud synnwyr ar ffermydd Cymru. Mae coed yn cynnig cyflenwad diddiwedd o goed tân i gadw’r ffermdy’n gynnes tra bod prisiau ynni’n codi. Fe allan nhw greu lleiniau cysgodol i amddiffyn da byw o’r gwynt, y glaw a’r haul. Fe allan nhw ddarparu cynefin i wenyn, adar â bywyd gwyllt arall. Fe allan nhw helpu atal llifogydd a llygredd dwr. Fe allan nhw amsugno carbon deuocsid o’r awyr gan leihau newid yr hinsawdd.

“Yr hyn sy’n newydd nawr ydi fod Llywodraeth y Cynulliad yn defnyddio arian Ewrop, bellach, i dalu ffermwyr a thirfeddianwyr eraill i blannu coed, gan gynnig grantiau hael dros ben.”

Mae un peth yn poeni Clare, fodd bynnag, gyda’r dyddiad cau ar gyfer Glastir ar yr 22ain o Dachwedd yn nesáu: “Gyda grantiau o hyd at £9,000 yr hectar, fe fydd y cynllun yma’n opsiwn deniadol i lawer o ffermwyr. Ond mae’r grantiau’n newydd ac mae yna beryg na fydd llawer o ffermwyr yn llawn ymwybodol ohonynt cyn dychwelyd eu ffurflenni Glastir ym mis Tachwedd. Felly, y peryg yw y gallent ddewis dilyn opsiynau eraill gyda darnau o’u tir, heblaw creu coetir, cyn darganfod pa mor hael yw’r grant am blannu coed.

“Felly, mi fuaswn i’n annog ffermwyr i gael golwg ar fanylion grantiau creu coetir Glastir nawr, ar wefan Llywodraeth y Cynulliad ar www.wales.gov.uk


Notes to Editors:

For media enquiries contact:

Angharad Evans, (Campaigns Officer Wales in Cardiff) on 08452 935 735 or 07774 122802

Or Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) on 07760 171174, Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH Email roryfrancis@woodland-trust.org.uk

Or The Woodland Trust Press Office email media@woodland-trust.org.uk or Tel 01476 581121

Coed Cadw (The Woodland Trust)

The Woodland Trust is the UK’s leading woodland conservation charity. It has 300,000 members and supporters. The Trust has three key aims: i) to enable the creation of more native woods and places rich in trees; ii) to protect native woods, trees and their wildlife for the future and; iii) to inspire everyone to enjoy and value woods and trees.

Established in 1972, the Woodland Trust now has over 1,000 sites in its care covering approximately 20,000 hectares (50,000 acres). These include over 100 sites in Wales, with a total area of 1,580 hectares (3,900 acres). It offers free public access to nearly all of its sites. Further news can be accessed via www.coed-cadw.org.uk The Trust adopted its Welsh language name in 2000: “Coed Cadw”. This is an old Welsh term, used in medieval laws to describe protected or preserved woodland.

Fe all y cyfryngau gysylltu ag:

Angharad Evans, (Swyddog Ymgyrchoedd yng Nghaerdydd) ar 08452 935 735 neu 07774 122802

Neu Rory Francis (Publicity and Public Affairs Officer for Wales) ar 07760 171174 Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH e-bost roryfrancis@woodland-trust.org.uk

Neu swyddfa’r wasg Coed Cadw yn Grantham sef media@woodland-trust.org.uk neu 01476 581121

Coed Cadw (The Woodland Trust)

Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 300,000 o aelodau. Mae gan y mudiad dri amcan allweddol, sef: i) galluogi creu rhagor o goedlannau brodorol a lleoedd sy’n frith o goed, ii) diogelu coedlannau a choed brodorol a’r bywyd gwyllt sy’n gysylltiedig â nhw at y dyfodol a iii) ysbrydoli pawb i fwynhau a gwerthfawrogi coedlannau a choed.

Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coedcadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.


 

For more information contact: