Ynyr Roberts, one of the stars of the Welsh band Brigyn, has welcomed the new Great Yews of Wales Tree Trail, produced by the Woodland Trust (Coed Cadw) as part of the Ancient Tree Hunt project.
He says: “Tree, the landscape and the wildlife of Wales have been a huge influence on our music. We were brought up amid the beauty of Snowdonia and have travelled to every part of Wales since forming the band Brigyn. We still marvel at the natural world as we travel across Wales and truly appreciate the beauty of nature which has survived down the centuries.
“When we launched our second CD – Brigyn2, we were keen to combine a live performance with singing at a truly meaningful location. We did achieved that by singing in a tree! Yes, we performed songs while standing inside an immense ancient tree near Rhandirmwyn in Carmarthenshire. It was a very special event and it was a great experience to sing in such a memorable and unusual location.
“It’s important to look after our history here in Wales – and that includes wildlife and the landscape.”
The trail has been written and compiled by Edward Parker2, himself an accomplished photographer and author. He says: “The trail can be started at any point and doesn’t necessarily need to be followed in order. Those who follow it will witness many magnificent ancient trees and some of Wales’ most spectacular scenery along the way. You could say it offers a journey through time – you can stand next to trees which were possibly full grown in the Bronze age and others that definitely pre-date Christianity. Enjoy!”
The new Tree Trail includes beautiful images, details of the trees and instructions as to how to find them. It is available to download for free at www.ancienttreehunt.org.uk (under ‘tree trails’) and is to be distributed in paper format by the National Museum of Wales in Cardiff and the National Botanic Garden at Llanarthne.
The twelve trees featured can be found in every corner of Wales, north, south, east and west:
• The Llangernyw yew, at Llangernyw near Llanrwst is widely considered to be the oldest living tree in Wales and thought by some to be up to 4,000 years old. We can be certain that it is far older than the church next to which it stands.
• Dafydd Ap Gwilym’s yew at Strata Florida Abbey in Ceredigion is believed to mark the spot where one of the greatest of medieval poets of Wales is buried.
• The Bleeding yew of Nevern is remarkable for the spectacle of the bloodlike fluid that oozes from a wound in the tree. Science has yet to explain this phenomenon. There are a variety of legends associated with this bleeding which attracts Christian and pagan pilgrims alike.
• The Bettws Newydd yew near Raglan is estimated to be at least 2,000 years old and has a wonderfully weathered outer trunk. Artistic representations from the 1890s show that the tree has changed very little over the last 120 years.
Launched in 2007, the Ancient Tree Hunt is a project established to map and record the location of old trees, as the first step in the protection and care of a vital and irreplaceable part of our national heritage and history. The target is to discover and record at least 100,000 ancient and notable trees across the UK. So far, the project has mapped xx trees across the UK, including 4,500 in Wales.
Anyone can join in, by recording trees themselves, or looking at trees already recorded, by visiting the project’s website at www.ancienttreehunt.org.uk
The Ancient Tree Hunt was established by the Woodland Trust (Coed Cadw) in partnership with the Ancient Tree Forum and the Tree Register of the British Isles. It is funded by the Heritage Lottery Fund, the Esmee Fairbairn Foundation, the Countryside Council for Wales, the Welsh Council for Voluntary Action, Scottish Natural Heritage and supported by the Forestry Commission; and will be working with local partners across the UK. Joining the Hunt are the Tree Council, The Caravan Club, The National Trust, English Heritage, Forestry Commission and HM Prison Service, over 100 regional and local groups, and many landowners.
Brigyn yn croesawu Llwybr y Coed Yw Mawreddog
Deuddeg ywen hynafol, y mae eu hanes nhw ynghlwm wrth hanes Cymru, yn aros i chi ymweld â nhw...
Mae Ynyr Roberts, un o sêr yr grwp gwerin modern Brigyn wedi croesawu Llwybr Coed Yw Mawreddog Cymru, sydd newydd ei gyhoeddi gan Goed Cadw (the Woodland Trust) fel rhan o brosiect yr Helfa Coed Hynafol.
Mae’n dweud: “Mae coed, tirwedd a natur wyllt Cymru yn ddylanwad mawr ar ein cerddoriaeth. Rydym wedi cael ein magu ym mhrydferthwch Eryri ac wedi teithio i bob rhan o Gymru, ers ffurfio'r band Brigyn. Rydym o hyd yn rhyfeddu ar natur hynafol rydym yn ei weld wrth deithio’r wlad ac yn llawn edmygu'r harddwch natur sydd wedi goroesi dros ganrifoedd.
“Pan oeddem yn lansio ein hail CD - sef yr albwm Brigyn2, roeddem am gyfuno perfformiad byw gyda chanu mewn lleoliad o bwys. Ac fe ddaru ni wneud hyn drwy ganu mewn coeden! Ie, mi ddaru ni berfformio caneuon tra'n sefyll y tu mewn i goeden hynafol enfawr ger Rhandirmwyn. Roedd o'n ddigwyddiad arbennig iawn, a braf oedd cael canu mewn amgylchedd wahanol a chofiadwy.
“Mae'n bwysig gwarchod ein hanes yma yng Nghymru - a hynny i gynnwys natur a'r tirwedd.”
Crëwyd ac ysgrifennwyd taflen Llwybr Coed Yw Mawreddog Cymru gan Edward Parker2, sydd yn ffotograffydd ac yn awdur adnabyddus. Mae yntau’n dweud: “Gellir cychwyn ar y llwybr yn unrhyw fan ac nid oes rhaid ei ddilyn yn y drefn yma. Bydd y rheini sy’n dilyn y llwybr yn gweld llawer o goed hynafol godidog a rhai o olygfeydd mwyaf ysblennydd Cymru ar hyd y ffordd. Gallech ddweud ei fod yn cynnig taith drwy amser - gellwch sefyll wrth ochr coed a oedd o bosibl yn eu llawn dwf yn yr Oes Efydd ac eraill sy’n bendant yn gynharach na Christnogaeth - yn ogystal â phrofiad diwylliannol cyfoethog. Mwynhewch!”
Mae’r Llwybr Coed newydd yn cynnwys lluniau prydferth, manylion am y coed a chyfarwyddiadau am sut i gael hyd iddyn nhw. Gellir dadlwytho’r cyfan am ddim yn Gymraeg neu’n Saesneg wrth wefan www.ancienttreehunt.org.uk (o dan ‘Tree Trails’) ac fe gaiff ei ddosbarthu hefyd ar bapur gan Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd a’r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne.
Mae’r coed sy’n cael eu cynnwys i’w gweld ym mhob cwr o Gymru, gogledd, de, dwyrain a gorllewin:
• Credir gan lawer mai Ywen Llangernyw, yn Llangernyw ger Llanrwst, ydy’r ywen hynaf yng Nghymru. Tybir gan rai ei bod hyd at 4,000 o flynyddoedd oed. Fe allwn ni fod yn sicr ei bod hi’n hyn na’r eglwys y mae’n sefyll wrth ei hochr. Mae’r goeden i’w chael ar dir Eglwys Sant Digain ym mhentref swynol Llangernyw.
• Credir fod Ywen Dafydd Ap Gwilym yn Ystrad Fflur yn marcio bedd y bardd hwn, y mwyaf o bosibl o feirdd yr oesoedd canol.
• Mae ywen Waedlyd Nyfer, er yn ddinod o ran ei hoed, yn nodedig am yr olygfa o hylif tebyg i waed sy’n diferu o archoll ar y goeden. Mae amryw o chwedlau’n gysylltiedig â’r gwaedu, sy’n denu pererinion Cristnogol a Phaganaidd fel ei gilydd.
• Credir fod Ywen Betws Newydd ger Rhaglan o leiaf 2,000 o flynyddoedd oed. Mae ganddo foncyff allanol sydd wedi’i dreulio’n rhyfeddol. Dengys darluniadau artistig o’r 1890au mai ychydig iawn y mae’r goeden wedi newid dros y 120 mlynedd ddiwethaf.
Lansiwyd prosiect yr Helfa Coed Hynafol yn 2007. Y bwriad yw cofnodi lleoliad hen goed fel y cam cyntaf tuag at eu diogelu fel rhan annatod o’n hetifeddiaeth a’n hanes ni. Y targed yw darganfod a chofnodi o leiaf 100,000 o goed hynafol a nodweddiadol ar draws y DU. Hyd yn hyn mae’r prosiect wedi mapio xx o goed ar draws y DU gan gynnwys 4,500 yng Nghymru. Fe all pawb ymuno, trwy gofnodi coed eu hunain neu drwy edrych ar goed a gofnodwyd eisoes, trwy ymweld â gwefan y prosiect sef:
www.ancienttreehunt.org.uk
Sefydlwyd yr Helfa Coed Hynafol gan Goed Cadw mewn partneriaeth gyda’r Fforwm Coed Hynafol a Chofrestr Coed Ynysoedd Prydain. Mae’n cael ei ariannu gan yr Esmee Fairbairn Foundation, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Treftadaeth Naturiol yr Alban, ac mae’n cael ei gefnogi gan y Comisiwn Coedwigaeth. Fe fydd llawer o bartneriaid lleol yn cydweithio gyda’r prosiect ar hyd a lled y DU. Yn ymuno â’r Helfa y mae Cyngor y Coed, y Caravan Club, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Comisiwn Coedwigaeth, a’r Gwasanaeth Carchardai, dros 100 o grwpiau lleol ynghyd a llawer o dirfeddianwyr.